portffolio dylunio

dylunio celfi-
Nid yn unig y gall celfi greu a chyflenwi dodrefn ‘oddi ar y silff’, ac mewn partneriaeth gyda chwmnïoedd dylunio a gweithgynhyrchu eraill, gallwn hefyd ateb gofynion dodrefn archebion arbennig. Byddwn yn cydweithio’n agos gyda nifer o grefftwyr a darparwyr deunyddiau adnabyddus (yn ogystal â rhai llai adnabyddus) gan gynnig rhyddid llwyr i’r sawl sydd yn archebu a’r dylunydd. O ddesgiau a wnaed yn benodol ar gyfer derbynfeydd a dodrefn ystafelloedd cynhadledd, at seddau a chadeiriau a ddyluniwyd yn unigol, ni’n cyfyngir gan gynnyrch ‘oddi ar y silff’ safonol. Anelwn at gynnig datrysiadau sydd yn canolbwyntio ar y cwsmer ar gyfer pob cynllun a ddyluniwydd yn benodol - a bydd hyn bob amser yn arwain at eitemau unigryw sydd yn benodol i’r project hwnnw.

dylunio mewnol - strategaethau ar gyfer y gweithle ac ardaloedd cyhoeddus, gwasanaethau pensaernïol, dylunio mewnol hamdden, delweddu corfforaethol a dylunio dodrefn - mae gan celfi dîm creadigol o bobl a chanddynt brofiad mewn amryw o brojectau masnachol.

goruchwylio’r weithfan - mae cwhaeth, technoleg ac adeileddau trefniadaethol yn newid yn gyflym dros ben, ac o ganlyniad ni ellir gwarantu arddull na gosodiad y gweithle at y dyfodol. Gall ein gwasanaeth ymgynghori ar oruchwylio’r weithfan gynnig ystod eang o wasanaethau perthynol a ddatblygwyd er mwyn cwrdd â gofynion newidiol y drefniadaeth, eu gweithwyr a’u cwsmeriaid - cynllunio gofod, ymgynghori ar ddodrefn, goruchwyliaeth wrth osod a goruchwyliaeth wrth brynu.

:diwedd