portffolio dylunio

dylunio dodrefn -
Nid yn unig y gall celfi greu a chyflenwi dodrefn ‘oddi ar y silff’, ac mewn partneriaeth gyda chwmnïoedd dylunio a gweithgynhyrchu eraill, gallwn hefyd ateb gofynion dodrefn archebion arbennig. Byddwn yn cydweithio’n agos gyda nifer o grefftwyr a darparwyr deunyddiau adnabyddus (yn ogystal â rhai llai adnabyddus) gan gynnig rhyddid llwyr i’r sawl sydd yn archebu a’r dylunydd. O ddesgiau a wnaed yn benodol ar gyfer derbynfeydd a dodrefn ystafelloedd cynhadledd, at seddau a chadeiriau a ddyluniwyd yn unigol, ni’n cyfyngir gan gynnyrch ‘oddi ar y silff’ safonol. Anelwn at gynnig datrysiadau sydd yn canolbwyntio ar y cwsmer ar gyfer pob cynllun a ddyluniwydd yn benodol - a bydd hyn bob amser yn arwain at eitemau unigryw sydd yn benodol i’r project hwnnw.

:diwedd