gofod byw

gofod byw -
Croeso i’n gofod byw. Bydd yr adran hon yn cynnig golwg gyffredinol ar rai o’r dewisiadau cyfoes a ddarperir ar gyfer y cartref. Ni fwriedir iddi fod yn restr ddiffiniadol o’n cynnyrch, ond fe ddylai gynnig ‘blas’ ar ein dewis. Daw ein cynnyrch i gyd o ddylunwyr Ewropeaidd blaengar a gweithgynhyrchwyr cynnyrch cyfoes, sy’n sicrhau adeiladwaith o’r safon uchaf ac apêl esthetig i gydfynd â’r gofod byw modern.

ymlacio -
Dewis eang o soffas a chadeiriau esmwyth, pob un ar gael mewn detholiad maith o ddefnyddiau a gorffeniadau.

cysgu -
Dewis anghynhwysol o welyau pren solid naill ai mewn Cneuen Ffrengig neu Dderw Ewropeaidd oll wedi eu dylunio gan Philipp Mainzer ar gyfer E15.

bwyta -
Byrddau, cadeiriau, stolion a meinciau ar gyfer ardaloedd bwyta modern.

goleuo -
Yn y gorffennol ni roddwyd llawer o bwyslais ar oleuo da, effeithiol o fewn amgylchedd y cartref. Gall dewis y golau addas wella unrhyw gynllun wrth gynorthwyo i greu naws benodol. Datblygwyd portffolio cynyddol celfi er mwyn ateb gofynion dewis eang o gynlluniau. Yn yr enghreifftiau a ddangosir, cynigir cymysgedd o ddylunio clasurol a datblygiadau technolegol effeithiau goleuo.

ategolion -
Y gorffeniad perffaith ar gyfer unrhyw gynllun. Byrddau achlysurol, standiau hetiau a chotiau, clociau, sgrîniau gwahanu – cysylltwch â celfi am restr gyflawn o’r ategolion sydd ar gael.

:diwedd